P-05-866 Ymgyrch Ymwybyddiaeth Gyhoeddus Sepsis - Cymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Siobhan Corria ar ran Michelle Christopher, ar ôl casglu 238 o lofnodion ar bapur.

 

Geiriad y ddeiseb:

 

Mae 44,000 o bobl yn y DU yn marw oherwydd sepsis bob blwyddyn. Bob 3.5 eiliad, mae rhywun yn y byd yn marw o sepsis.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymrui gynnal Ymgyrch Ymwybyddiaeth Gyhoeddus Sepsis i leihau marwolaethau diangen a gwella canlyniadau i’r goroeswyr a’r holl bobl y mae’n effeithio arnynt.

Er cof am Chloe Christopher a’r holl bobl y mae sepsis wedi effeithio arnynt yng Nghymru

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Gogledd Caerdydd

·         Canol De Cymru